Rhif y ddeiseb: P-05-948

Teitl y ddeiseb: Achub y caeau gleision yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth Cymru atal ei chynlluniau i werthu’r caeau gleision yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn ar gyfer 460 o dai. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i beidio â gwerthu’r tir ar gyfer codi tai a rhoi’r gorau i’w chynlluniau ar gyfer y datblygiad y cafwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar ei gyfer yn 2018. Os na ellir atal y datblygiad yn llwyr, gofynnwn am i rai o'r caeau gael eu gadael yn eu cyflwr naturiol. Gweinidogion Cymru sy'n berchen ar y tir. Rydym yn annog i Weinidogion Cymru roi sylw i’r Argyfwng Hinsawdd a ddatganwyd ganddynt a chadw at egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol trwy dynnu yn ôl, neu leihau’n sylweddol, y cynlluniau ar gyfer adeiladu ar y caeau Cymreig hyfryd hyn. 

Mae'r caeau'n ffinio ar Goed-yr-Hendy (coetir hynafol), Afon Clun a Chors y Pant, sy'n safle gwarchod natur. Mae gan y caeau ddwy dderwen fawr a chyfoeth o wrychoedd, ac yn rhannau gogleddol y caeau mae nifer dda o lasbrennau coed derw. Bydd gwaith codi tai yn niweidio'r gwrychoedd a'r glasbrennau. Mae Coed-yr-Hendy a’r caeau yn gartref i nifer fawr o adar, mamaliaid bach a phryfed; gwelir adar ac ystlumod yn gyson yn hela eu bwyd uwchben y caeau - ni ddylem ni fynd â hyn oddi arnyn nhw. Bydd adeiladu ar y caeau hyn yn cael effaith drychinebus ar fywyd gwyllt lleol a'r system ecolegol leol. 

Yng ngoleuni Argyfwng Hinsawdd y wlad hon, mae cadw ein coed, ein gwrychoedd a’n mannau gwyrdd yn dod yn bwysicach fyth o gofio sut maen nhw'n amsugno ac yn hidlo carbon deuocsid a llygryddion aer eraill, ac maen nhw'n helpu gyda draenio dŵr glaw ac yn helpu i leihau erydiad y pridd. Byddai parhau â ffermio defaid ar y caeau hyn yn dod â buddion aruthrol i’n hamgylchedd ym Meisgyn a thu hwnt.  Dyma gyfle i Weinidogion Cymru fod yn gall am yr hinsawdd ac achub y safle maes glas hwn.

Rhagor o wybodaeth: Mae ffermwyr tenant wedi bod yn ffermio defaid ar y caeau hyn ers degawdau.  Hefyd, ers dros 70 o flynyddoedd, mae teuluoedd lleol wedi bod yn defnyddio’r caeau hyn ar gyfer hamdden a mwynhau byd natur.  Gwnaed cais Maes Pentref yn 2017, ac er ei fod yn bodloni llawer o’r meini prawf cyfreithiol, methodd y cais yn y pen draw. Fodd bynnag, fe nododd yr Arolygydd fod tystiolaeth glir bod y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon a difyrion cyfreithlon. 

Mae goblygiadau o ran traffig ac isadeiledd; mae ysgolion lleol a gwasanaethau iechyd yn debygol o ddioddef yn sgil datblygiad anghynaladwy. Mae llygredd uchel iawn ar yr A4119, sy'n rhedeg yn ymyl rhai o'r caeau. Mae ardal rheoli ansawdd aer ar yr A4119 yn union gyfagos i'r safle hwn. Mae “Adroddiad Cynnydd o Ansawdd Aer 2019” Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dangos bod darlleniadau o Nitrogen Deuocsid (NO2) ar gyfer yr ardal rheoli ansawdd aer hon wedi bod yn uwch na therfyn cyfreithiol yr UE a’r DU am 12 o’r 13 blynedd diwethaf. Mae miloedd o gartrefi yn cael eu hadeiladu lai na 10 munud i ffwrdd yn y car yng Nghreigiau, Plasdŵr a Llanilid. Rydym yn cwestiynu'r angen i adeiladu ar y caeau hyn. Nid yw ychwanegu tua 1000 o drigolion at boblogaeth Meisgyn yn gynaliadwy i'r pentref bach (dim siopau, dim gwasanaethau iechyd, ac un ysgol gynradd Gymraeg); bydd 460 o dai ychwanegol yn golygu nifer enfawr o deithiau car newydd i gyrraedd gwasanaethau ac ysgolion. Mae gan drigolion lleol bryderon bod y cynlluniau caniatâd cynllunio amlinellol a gyflwynwyd ar ran Gweinidogion Cymru yn 2017 hefyd wedi diystyru agweddau ar Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf - yn benodol trwy beidio ag ymrwymo i ddarparu ysgol, gan fod mwy na’r 400 o dai a nodwyd, trwy beidio â chynnwys cyfnewidfa aml-lefel ar wahân i'r A4119, a thrwy geisio adeiladu ar dir yn union gyferbyn ag Ysgol Llantrisant (nad yw yn y Cynllun Datblygu Lleol). Bydd gwaith adeiladu yno gollwng mygdarth yn uniongyrchol i'r ysgol a'r maes chwarae am flynyddoedd, yn ogystal â’r cynnydd yn y traffig - gan greu mwy o lygredd a pheryglon traffig i blant

 


Cefndir

Ni all y Gwasanaeth Ymchwil wneud sylw ar achosion unigol ac ni all drafod rhinweddau ceisiadau cynllunio unigol.

 

Y datblygiad arfaethedig yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn

Gellir gweld y ddogfennaeth sy'n ymwneud â'r cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig hwn ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yma: Cefn yr hendy.

 

Y broses gynllunio

Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau cynllunio yn unol â’r polisi cynllunio cenedlaethol a lleol ynghyd â materion perthnasol eraill, a elwir yn 'ystyriaethau perthnasol'.

Mae polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi ym Mholisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 10) .

Caiff polisïau cynllunio lleol eu cynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys cynigion a pholisïau ar gyfer defnyddio tir lleol yn y dyfodol. Dyma’r brif ddogfen a ddefnyddir wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.

Mewn egwyddor, gall unrhyw ystyriaeth sy'n ymwneud â defnyddio a datblygu tir fod yn ystyriaeth berthnasol. Yn y pen draw, y llysoedd sy’n penderfynu.

Ar ôl derbyn cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ei ystyried, bydd cyfnod statudol yn dechrau pan fydd y cais yn cael cyhoeddusrwydd a bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal. Mae maint y cyhoeddusrwydd a’r ymgynghoriad yn dibynnu at natur y cais a gyflwynir a pholisi’r Awdurdod Cynllunio Lleol.  Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i roi cyhoeddusrwydd i gais mewn sawl ffordd. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r rhai y byddai’r cais yn effeithio arnynt leisio’u barn.

Wrth benderfynu ar gais, rhaid ystyried yr holl sylwadau a ddaw i law. Ar ôl penderfynu ar gais, rhaid rhoi gwybod i bawb a roddodd sylwadau.

Caiff ymgeiswyr apelio naill yn erbyn penderfyniad i wrthod rhoi caniatâd cynllunio neu yn erbyn yr amodau a gaiff eu gosod gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel rhan o’r caniatâd.  Fel arfer, Arolygiaeth Gynllunio Cymru sy’n ymdrin ag achosion apêl yn erbyn penderfyniadau cynllunio.  Nid oes hawl i bartïon eraill sydd â diddordeb (a elwir yn drydydd partïon) apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio.

Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru:

Ysgrifennodd Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, at Gadeirydd y Pwyllgor ar 17 Mawrth 2020. Roedd ei lythyr yn nodi’r pwyntiau a ganlyn:

·         Mae’r eiddo dan sylw yn destun cytundeb cyd-fenter rhwng Gweinidogion Cymru a Talbot Green Developments Limited ac mae rhwymedigaeth ar y partïon sy’n rhan o’r cyd-fenter i hyrwyddo’r eiddo ar y cyd ar gyfer datblygiad preswyl ac i waredu’r eiddo gyda buddiant caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl.

·         Mae’r cytundeb hwn wedi’i etifeddu o gytundebau a wnaed gan gyrff blaenorol, sef yr Is-adran Tir ac Awdurdod Datblygu Cymru.

·         Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus ym mis Mawrth ym Mhont-y-clun i ystyried a ddylid cofrestru’r caeau fel Maes Tref a Phentref. Canfu’r arolygydd nad oedd y prawf statudol ar gyfer cofrestru wedi’i fodloni ac felly gwrthodwyd y cais.

·         Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ym mis Chwefror 2018 ar gyfer tua 460 o anheddau, ysgol gynradd, canolfan leol, man agored a gwaith draenio a thirweddu cysylltiedig. Ac eithrio mynediad, cadwyd pob mater yn ôl (h.y. i fod yn destun cais manwl pellach).

·         Mae’r safle wedi’i neilltuo yng nghynllun datblygu lleol Rhondda Cynon Taf ar gyfer datblygiad preswyl fel rhan o ddyraniad safle strategol.

·         Mae’r caniatâd yn destun 31 o amodau cynllunio gan gynnwys amodau sy’n gofyn am fesurau gwarchod coed, cynllun gwarchod bywyd gwyllt, cynllun rheoli cynefin a chynllun lliniaru ar gyfer rhywogaethau a warchodir.

·         Mae rhwymedigaeth cynllunio cysylltiedig (cytundeb adran 106) yn sicrhau cynllun cyflogaeth a sgiliau, cyfraniad ariannol parcio a theithio, darparu’r ganolfan leol, rhoi cynllun rheoli tir cynefin 25 mlynedd ar waith ynghyd â chynllun rheoli llain glustogi o goetir, darparu man agored cyhoeddus a meysydd chwarae a’r trefniadau rheoli cysylltiedig ac 20 y cant o dai fforddiadwy.

·         Mae gofyniad i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol hefyd a gaiff ei gyfrifo pan fydd y materion a gadwyd yn ôl yn cael eu cymeradwyo.

·         Yn ôl yr uwchgynllun dangosol, bydd rhannau helaeth o’r safle na fyddant yn cael eu datblygu, a bydd mannau agored cyhoeddus yn rhan o gorff y safle hefyd. Bydd cyfanswm o 0.76 hectar o fannau agored cyhoeddus, 3.3 hectar o fannau agored anffurfiol a 0.65 hectar o goetir.

·         Bydd y caeau agored ar gyrion ffin ogleddol y safle yn parhau’n agored ac yn cael eu rheoli at ddibenion ecoleg a mynediad i’r cyhoedd fel rhan o’r cynllun rheoli tir cynefin.

·         Ni fynegodd Cyfoeth Naturiol Cymru na chynllun datblygu lleol Rhondda Cynon Taf unrhyw wrthwynebiad yn ddarostyngedig i’r amodau a’r cytundeb adran 106 y cyfeiriwyd atynt uchod.

Mae rhagor o fanylion yn llythyr y Gweinidog.

 

Camau a gymerwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Hydref 2017, gofynnodd Andrew RT Davies AC gyfres o gwestiynau ysgrifenedig yn ymwneud ‘r datblygiad arfaethedig. Ymatebodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd dros yr Economi a'r Seilwaith fel a ganlyn:

Regular meetings have taken place with the company which is now called Talbot Green Developments Limited to discuss and progress the proposed development. I am unable to confirm which companies were originally considered as development partners as it was a development agreement made between the former Welsh Development Agency and the company. 

The Welsh Government has incurred professional fees for the completion of studies and the preparation and submission of a planning application, as has the company. In view of the fact that this is a joint venture with a private company the full financial details are considered to be commercially sensitive.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.